Y Lleuad Tan Ddŵr

"Ti'n gofyn cwestiwn twp," sylwodd Nishca wrth dynnu'r ail flanced o gwmpas ei hysgwyddau. "Tafla foncyff arall ar y tân, Khelgar. Dw i'n marw o oerfel yma."

Rhochiodd Khelgar i ddangos ei farn am ei heiddilwch cyn ychwanegu dau foncyff at y tân a oedd yn llosgi'n dda yn barod yn yr hen aelwyd garreg.

"Dim syniad sut o't ti'n goroesi'r mynyddoedd," mwmiodd ef.

Plyciodd y clustiau craff y ddieflen. "Well na ti. Cred i fi, ces i lawer o wersi gan offeiriaid Helm am fod yn oer. Pan o'n i'n eu gadael, addawais mod i byth yn rhewi eto os 'sdim angen. Os mae cacen, bwyta. Os mae cwrw, yfa. Arian? Gwaria fe! Os mae tân, cadwa fe yn boeth a rhostia gastanau ynddo."

"Does dim castanau. Anghofiodd Arglwydd Nasher roi castanau i ni yn ogystal â'r castell enfawr maluriedig," meddai Shandra. Ymdopodd y masnach-ffermwraig â'r amddifadiadau cyfredol yn wych er iddi ddod yn fwy eironig wrth i'r tymheredd gwympo.

Roedd y drydedd noson yng Ngorthwr Croesffordd yn union mor anghyfforddus â'r ddwy noson o'r blaen. Allai Khelgar ddim honni na fyddai yn hapusach yn y Fflagen. Roedd pawb yn dal i rannu'r un ystafell: yn ymddangosiadol oherwydd pryderon am strwythur yr adeilad. Mewn gwirionedd teimlai'r neuaddau gwag drafftlyd fel maglau. Maglau sinistr wedi'u cyniwair gan gofion o frwydrau gorffennol ac offeiriad y Gwyll. Y mis diwethaf, llusgodd Lila ei ffrindiau i gyd i Theatr y Llyn Du ble oedd Caer ar Ddiwedd y Byd yn chwarae i dŷ llawn. Cafodd Khelgar yn fwy o hwyl nag oedd wedi'i ddisgwyl — sut allai pobl a oedd prancio o gwmpas y llwyfan mewn gwisgoedd dwl fod mor hudol? — ond nawr — wel — doedd drama am gastell gydag ysbrydion ym mhob cornel ddim y math o beth oedd yn ei helpu.

"Dyw e ddim yn faluriedig. Dylet ti fod yn neisach amdano — dyn ni'n byw 'ma am byth, oni bai bod Ei Uchelder yn newid ei feddwl," meddai Lila wrth fflicio cerigyn tuag Shandra fel cosb am ei diffyg o frwdfrydedd.

Cododd Shandra ei aeliau golau. Yna, curodd hi'r wal yn galed gyda phwmel ei chryman rhyfel. Yn syth daeth cesair o blastr a cherrig bach i lawr ar bennau pawb. Gorfododd Khelgar frwsio fflochiau brwnt allan o'i farf.

"Iawn." meddai Lila. "Gwrthwynebiad cynhaliwyd." Siglodd lwch plastr o'i gwallt trwchus, ond gwrthododd ef â gadael y cyrlau wedi'i liwio yn saffron heb anrheg ymadawol lwyd. Llongyfarchodd Khelgar ei hun unwaith eto am y penderfyniad ddeg mlynedd yn ôl i eillio top ei ben. Penderfyniad ymarferol a chyfleus. Wel, roedd ei fam yn arfer yr ellyn, ond byddai wedi atal pe bai Khelgar wedi dewis cadw ei wallt hir.

"Mae 'na ddarn o bren yn arnofio yn fy mhosel," meddai Grobnar yn siriol. "Dych chi'n meddwl ei fod yn dod o'r nenfwd?"

Canlynodd distawrwydd byr wrth i bawb lygadrythu'r nenfwd budr.

"Alla i ddim gweld y trawstiau..." meddai Casafir o'r diwedd. Eisteddai yng nghornel yr ystafell rhwng Elani a'r creadur githserai rhyfedd.

"Baswn i'n hollol ddigalon tasai Syr Nefal yn llwydo yn ei ymdrechion i fy lladd drwy ddamwain," meddai Sand. Gorchuddiodd llwch yr elff hefyd, ond rywsut edrychodd fel dewis ffasiwn fwriadol. Doedd Elani ddim fel yna o gwbl, felly roedd y ceinder yn amlwg yn beth Sand, nid yn beth elffaidd.

"Ym. Do'n i ddim eisiau i hynny ddigwydd." O dan y llwch, gwridodd Shandra.

"Dw i'n siŵr pe bai'r nenfwd ar fin dod i lawr, byddai wedi ei wneud pan oedd Gariws Du yn ffrwydro ei hun i fyny," meddai Lila gyda gwên led.

Chwifiodd Nishca law yn ddiystyriol. "Dim ots. Nawr, dyn ni 'di gadael pwnc pwysig. Ro'n i'n mynd i egluro pam bod cwestiwn Lila yn dwp."

"Oes rhaid?"

"Oes!"

"Beth oedd y cwestiwn eto?" gofynnodd Grobnar. "Ro'n i'n ceisio ysgrifennu cynghanedd groes yn cynnwys y gair 'githserai'. Githserai lyncaidd gaeth ei sirioli yn y caddug? Na. Dw i'n gorfod cyfaddef ei fod yn heriol. Mae'n debyg bydd 'Sjaefe' yn anodd iawn i ffitio i'r rheolau hefyd." Ymgrymodd i'r offeiriades arallfydol fel petai'r gnôm yn ei chanmol oherwydd anhawster ei henw. Mewn ateb, cododd Sjaefe dri bys i'w thalcen fel arwydd parch — o leiaf, parch yn ôl yr hen ysgolhaig Aldanon. Sut gwyddai hynny oedd yn ddirgelwch i Khelgar.

"Roedd y cwestiwn, 'Beth yw'r dafarn ddelfrydol?'" bloeddiodd Cwara o'i chornel dywyll. "Dwedodd hi yn llythrennol gannoedd o weithiau. Sut allet ti ei fethu?"

"O, dw i'n hoffi hynny..." anadlodd Grobnar wrth i'w lygaid mawr glas fflachio.

"Dw i ddim hoffi hynny," meddai Nishca. "Gwrandwch, does dim posibilrwydd bod ni'n gallu dylunio tafarn ddelfrydol achos ei bod hi fel y bywyd nesa: mae'n wahanol. Pan ydw i'n archebu lle yn y dafarn derfynol, chi'n meddwl bydda'n gobeithio am heddwch tragwyddol, neu bartis pregethon? Bydda i am gerddoriaeth, dawnsio, cwmni siarp, a thai enfawr cyfoethog."

"Beth wyt ti'n neud 'ma felly, ferch?" gofynnodd Khelgar. Doedd dim yn siŵr a oedd yn teimlo'n grac neu wedi'i ddifyrru. "Ti a dy gwmni siarp di. Lol wirion. Does 'na ddim byd o hynny yma."

Chwythodd Nishca fafon ato.

"Siarad ar dy gyfer, Khelgar," meddai Sand. "Y wisg hon oedd y fwyaf ffasiynol yn Mirabar yn llai na chanrif yn ôl." Safodd yr elff i fyny ac estyn ei freichiau allan er mwyn arddangos mor llawn â phosib y clytiau a staenau wedi'u casglu drwy ddamweiniau alcemeg a brwydrau diweddar. Ar ôl i gymeradwyaeth eironig Nishca a Lila gilio, plygodd Sand braich dde dros ei frest a sythu'r ysgwyddau, fel ei fod yn sefyll yn y llys eto ac ar fin gwneud llw o ffyddlondeb.

Edrychai'r dewin egwan yn chwerthinllyd; pe bai Sand yn ymweld â'r Haearnddyrnau, byddai'n fuan yn cael ei rhoi ar ddognau triphlyg gorfodol i greu ychydig o gyhyr. Ond roedd yn sicr rhywbeth arall amdano, rhywbeth yn ddifrifol – allai Khelgar ddim egluro'r gynneddf hon arbennig i'w hun, ond teimlai ei bod hi'n bresennol. Uffern, alla i yfed peint neu ddau nawr.

"Beth bynnag, rydw i wedi ystyried natur y dafarn ddelfrydol, ac mae'r ateb yn amlwg. Yn Ninas Sand, byddaf i ddim yn caniatáu tai cyhoeddus. Na." Chwifiodd fynegfys; roedd yr elff yn chwarae'r areithiwr o hyd. "Caf i glwb agos ar gyfer rhai gwesteion dethol. Bydd yr awyrgylch yn hynaws, y goleuadau yn isel, y llenni o ddamasg, a'r bobl yn gall. Ar bob noson gwahoddir ysgolorion i sgwrsio am bynciau o ddiddordeb..."

"Mae'r diflastod yn lladd fi yn barod," cwynodd Nishca, "a dyw'r lle 'ma ddim yn bodoli."

"Cytuno am y llenni," meddai Khelgar. Hoffai lenni o ansawdd da; roedd yn arwydd sicr bod Lila wedi talu am y math gorau o westy. Cytunodd â Nishca am bopeth arall. Fyddai ddim yn ei gyfaddef: doedd dim angen iddo ei hannog. "Ond beth am y cwrw? Sut wyt ti'n gallu dweud dy fod ti'n rhedeg tafarn, ac anghofio'r cwrw?"

"Does neb a fyddai'n gofyn am gwrw yn debyg i ddod yn aelod o'm sefydliad," gwrth-atebodd Sand yn syth.

Ond wedyn, cododd llais dwfn, araf o'r gornel ger Elani. Casafir oedd y siaradwr. "Fyddai rhagor o glybiau preifat ddim yn cynorthwyo Difarrug. I'r gwrthwyneb, maen nhw'n gwaethygu'r sefyllfa."

Fflachiodd llygaid Sand a Nishca ar yr un pryd. Symudodd eu golwg tua'r marchog fel pennau helgi ar ôl iddyn nhw arogli'r ysglyfaeth.

"Dw i'n credu oedd hynny'n sialens..." meddai Sand.

"Fi hefyd," meddai Nishca, "ond os fydd e'n clepian am demlau eto, fe af i guddio ei gŵyr arfwisg."

Tywyllodd y cysgodion yn y siambr nodweddion Casafir a heb ei gyffroi dychwelodd sylw'r grŵp canolog siaradus. Rhedodd law drwy ei wallt du, ac yna dechreuodd siarad.

"Ces i fy anfon i'r ffin ogleddol sawl blwyddyn yn ôl gyda'r Clogau Llwyd i chwilio am batrôl Lwscanwyr. Roedd y Gaeaf wedi cyrraedd, a rhewodd y ddaear yn yr ucheldiroedd. Does dim digon i fwyta, ac roedden ni'n newynu y rhan mwyaf o amser." Daeth saib. Gwerthfawrogai Khelgar chwedlau milwyr, ond doedd straeon y marchog hwn erioed orffen ar fuddugoliaeth ogoneddus. Yn ei lle cropiodd seibiau a thristwch i mewn yn unig; tâl prin am sylw Khelgar. "Daethon ni ddim o hyd i'r patrôl. Ond ar ôl i ni ddychwelyd i Borth Terfynol, a chwympo i mewn i Arfau'r Cynghrair... Rydych yn gwybod ei fod yn dafarn arferol, canolig. Yn yr eiliad hon, tafarn orau yn Ffeirwn oedd hi. Y cadeiriau oedd y meddalaf, y bwyd oedd y mwyaf blasus erioed, y tân oedd y mwyaf deniadol..."

"O leiaf mae'r Arfau yn gweini cwrw gweddus," galwodd Khelgar.

"Beth ydy 'tafarnau'?" gofynnodd yr offeiriades estronol, Sjaefe neu Fjaese neu Jfaefe neu rywbeth arall.

"Nefoedd gwaedlyd!" Allai Khelgar ddim meistri ei arswyd. "Oes 'na ddim tafarnau yn dy wlad di?" Ble bynnag oedd teyrnas y Gith-bobl ryfedd yn cael ei lleoli.

"Mae neuaddau gweddi ar bob lefel y Ddinas Luwchio," meddai'r offeiriades. Roedd y tro cyntaf a sylwodd Khelgar pa mor dreiddiol oedd y llygaid gwyrdd yn sgleinio uwchben ei gorchudd. "Fe ddaeth yr un ar y bumed-llawr-ar-hugain o feddwl ein Menyar-Ag. Mae rhai ymwelwyr ffodus yn gallu gweld ymerodraethau'n codi a syrthio mewn adlewyrchiadau dros y muriau niwlog."

Ddeallodd hi ddim. Doedd dim ei bai hi, ond byddai rhaid iddi hi astudio tafarnau yn ystod ei harhosiad gyda nhw. Arfordir y Cleddyf oedd hyn, wedi'r cyfan. "Wyddoch, dw i'n parchu'r Duwiau'n fwy nag unrhyw un yn y stafell 'ma, a bydda i'n dysgu gwers galed i'r un sy ishe fy ngwrth-ddweud fi am hynny, ond dyw neuaddau gweddi ddim yr un peth â thafarnau. Dim o gwbl. Na."

"Dw i'm siŵr," medda Lila. "Gwnes i weld wyneb Brenin Azoun y Pedwerydd drwy waelod gwydraid, a ro'n i'n dechrau meddwl mod i wedi dal yr Olwg o win fy Ewythr. Ac yna gwnes i sylweddoli bod Nishca wedi glynu swllt o Gormyr wrtho, a ro'n i'n edrych ar ddarn arian."

Chwarddodd y ddieflen yn uchel gyda'i phen wedi'i thaflu'n ôl. "Roedd hynny'n wych! Ro'n i 'di anghofio amdano..."

Doedd Khelgar ddim wedi ei anghofio. Digwyddodd llawer o bethau'r noson hon pan longyfarchai pawb yng nghylch y Hirlaths ganlyniad y prawf trwy ymladd. A, roedden nhw'n gwacáu hen ddigon o dancardiau ar y pryd hwnnw. Diweddodd popeth yn oriau mân y bore ar ôl i Nishca ddwyn cwch a cheisio rhwyfo dros y môr i gyfandir dirgel Matsica. Cyrhaeddodd Lila ben y lanfa mewn amser i gipio'r peinter a'i glymu o gwmpas polyn wrth i'w ffrind barhau i rwyfo, yn rhy feddw i sylweddoli nad oedd hi'n mynd unrhyw le. Gorweddai hi wedi'i chyrlio i fyny yng ngwaelod y cwch yn cysgu'n sownd fel cath sinsir pan aeth Khelgar allan o'r Fflagen eto tuag at ganol dydd.

"Noson ardderchog, oedd hi," meddai, "Caethon ni amserau da yn y Fflagen bob hyn a hyn, dw i'n ei gyfaddef. Wrth gwrs, pe bawn ni'n yn Y Bragdy Agored yng nghaer fy mhobl, neu Byti i Bawb yn Neuadd Mithril, byddai wedi bod yn well. Mae corachod yn deall sut i daflu gwledd go iawn."

"O't ti byth yn Neuadd Mithril!" meddai Nishca wrth droi ei llygaid.

"A beth sy'n bod arno? Dw i ddim angen mynd i'r lle i'w nabod ei fod yn aruthrol. Mae Byti i Bawb yn enwog dros y byd, sicr yn fwy enwog na'r caban bach yn Nŵrdwfn." Mewnanadlodd Khelgar, a theimlodd ei galon yn codi wrth feddwl am y chwedlau a dwedwyd am y dafarn anferth, danddaearol. "Mae 'na hugain o byrddau, ac mae dau gant o lefydd ar bob un. Mae'r diodydd yn cael eu gweini mewn casgenni - cwrw cryf brown, wisgi yn mygu o hyd o'r tanau mawn, a glandartrank, mae hynny'n frandi poeth wedi'i gymysgu â sudd llus yr iâ, a mêl hefyd - ac ar wyliau maen nhw'n rhostio bual cyfan yng nghanol y stafell. Mae scaldau doethion yn areithio'r hanesion gorau, ac mae 'na ganu, a dadlau, a llwncdestunau a, cystadlaethau bwyta a chystadlaethau yfed a chystadlaethau taflu bwyell..."

"Mae'n flin 'da fi, Khelgar," meddai Shandra heb swnio'n edifar mewn unrhyw ffordd, "ond alla i ddim dychmygu lle gwaeth. Dw i'n teimlo'n sâl jist yn meddwl am eistedd yno yn tagu yn y mwg gyda dau gant o bobl yn rhacs ar ddiod, wrth i hen fardd siarad am ffrae oedd ei dad-cu wedi cael gyda chawr neu ieti neu rywbeth sawl degawd yn ôl. Gwnes i ymweld â neuadd gwrw yn Nŵrdwfn unwaith, ac roedd hynny'n ddigon...o neuaddau gwrw ac o'r ddinas ei hun."

"Ti ddim yn yfed, croten," eglurodd Khelgar. "Dyw y rhan mwyaf o gorachod ddim yn gallu ei ddeall, yn fy nghynnwys fi." Cododd Shandra ei haeliau, ac ychwanegodd ef yn gyflym, "Ond dw i'n anrhydeddu'r ymroddiad. Gobeithio fydd Prior Hlam ddim yn dishgwl yr un peth ohonof i." Syniad dychrynllyd. Fyddai byth yn dod yn fynach yn yr achos hwnnw.

"Felly..." meddai Lila. Edrychodd ar Shandra, a gogwyddodd ei phen mewn gwahoddiad.

"Yn wir," meddai Sand.

"Dweda, Jero," cytunodd Khelgar. "Dw i ishe clwyd popeth am dy dafarn sych." Roedd yn siŵr a fyddai'r Byti yn well gyda phawb, gyda'r marchog lleddf hefyd. Gallai un noson mewn tafarn corachod lonni unrhyw un.

Pan sylweddolodd Shandra ei bod yn ganolbwynt sylwi'r ystafell, cliriodd ei gwddf a dechreuai edrych yn nerfus. Heb orfodaeth ei dicter neu dosturi yn ei gyrru ymlaen, gallai'r ffarmwraig fod eithaf swil.

"Wel," meddai'r ddynes olau, "ro'n i'n hoffi safbwynt Casafir. Y dafarn orau yw'r un sy ar agor ac yn gynnes os dych chi'n mynd â chart i'r gogledd, a gweld y cymylau storm yn hedfan drosoch chi."

"Ach, paid â bod mor synhwyrol, Shandra," meddai Nishca. "Gallet ti wastraffu'r holl ddiwrnod fory yn gwneud rhestrenni rwtsh a gofyn cwestiynau am blymio na' dyn ni ishe gwybod yr ateb iddyn."

"Gwnes i ofyn un cwestiwn, ac roedd yr ateb 'wrth gwrs, byddwn ni'n cael pobl o'r gild yng Nghraegfawr i ddadflocio'r geudai'."

"A dw i'n ddiolchgar iawn amdano," meddai Lila.

"Mor, mor ddiolchgar," murmurodd Sand yn danbaid gyda'i lygaid ar gau.

"Ond, iawn," parhaodd Shandra, "mae hyn yn swnio'n dwp - er hynny... Pan o'n i'n ferch fach, falle chwe mlwydd oed, aeth fy mam â fi i Ddifarrug. Roedd 'na dafarn fachog gyda sêr gwydr hudol yn y ffenest, ac aroglau anghredadwy yn llifo allan o'r gegin. Aethon ni i mewn. Fel arfer, fydden ni erioed wedi mynd i rywle fel 'na. Fydden ni ddim yn dlawd, nid yn llwyr," brysiodd y ddynes ifanc i egluro, "ond hoffai fy mam ddim y math o le. Ac wedyn daethon gweinyddion â ni i fwrdd pert ger y ffenest a'r sêr, ac daeth y perchennog â sudd afal poeth a phwnsh mwyar y gaeaf a phwdin gwsberis wedi'i chwmpasu gan lawer o ganhwyllau arian. Roedd yn elff yn chwarae'r dwlsimer ar gyfer y cwsmeriaid, a gadawodd i fi roi cynnig arno hefyd." Gwenodd at y cof. "Diwrnod arbennig oedd e. Roedd fy mam yn siarad llawer am ei mam - roedden nhw'n agos iawn. Alla i byth dod o hyd i'r dafarn 'na eto." Ochneidiodd. "Caeth hi ei diflannu fel breuddwyd."

Edrychai'r grŵp yn y siambr ddifrifol; gallai Khelgar ddyfalu'r rheswm. Teimlai yn sydyn ar goll mewn meddyliau am ei fam ei hun, a'i gefnderoedd. Doedd neb ohonyn nhw yn cymeradwyo ymadawiad yr Haearnddwrn ifancaf o'r llinell y brenhinoedd. Gwnaeth ei fam iddo roi addewid i fwyta o leiaf teirgwaith y mis mewn tafarn corachaidd go iawn, rhag ofn iddo nychu. Yn anffodus, daeth yn glir bod yn ddiffyg o dafarnau corachaidd yn Nifarrug, ac felly doedd dim cyfle i gadw ei addewid.

"Dw i'n dod yn sentimental," meddai Shandra wrth ysgwyd ei phen a blincio at y tân. "Beth amdanat ti, Grobnar?

Neidiodd y gnôm i fyny fel imp yn dianc o flwch. Ymddangosodd rhosod ar ei fochau gyda'i hapusrwydd. Griddfanodd Khelgar, a meddyliai am osod ei ben yn ei ddwylo nes i Shandra guchio arno.

"Dw i'n nabod y lle perffaith," meddai Grobnar, bron yn sboncio ar ei sodlau, "a dych chi'n ei nabod fe hefyd. Wrth gwrs, mae rhaid i'r Fflagen Suddedig fod y dafarn ddelfrydol. Dyma'r lle a glymodd ni gyda'n gilydd drwy gefnogaeth hael Mister Dyncan. Gwnes i gwrdd â chi ar y ffordd i Hen Ffynnon y Dylluan, ond daethon ni'n ffrindiau gwir yn y Fflagen. Tasai'r Fflagen ddim y dafarn berffaith, yna, wel, ni fydd unman."

Ar ôl iddo siarad, arhosodd Grobnar. Yn lle dilyn ei araith gryno gyda llif o rwtsh am dduwiau-a-wŷr-beth, disgleiriodd at yr ystafell.

Dalodd Nishca lygaid Khelgar. Edrychai mor ddryslyd ag yr oedd yn teimlo. Pwyntiodd hi at y gnôm, a chegodd, "Pwy sy'r impostor 'ma?"

Yna cododd Grobnar fys, fel ar fin ychwanegu rhywbeth. Cyn i Khelgar allu awgrymu y dylai pawb ganu tôn gron argyfwng, safodd Lila i fyny, ac meddai yn gyflym gyda gwên gam, "Diolch o galon i bawb am ofyn am fy marn i! Fel arfer, dw i'n hapus i'w rhannu hi unrhyw bryd."

Gyda'i choesau hir, côt debyg i gwilt clytwaith, a ffrwydrad o wallt saffron, gallai'r Capten newydd sbon symud hyd yn oed Grobnar i dawelwch.

"Mae'ch dymuniadau mor ddiymhongar. Hyfryd, prydferth, ond byddwn i eisiau rhagor. Felly, cawn ni far o bren ceirios yn estyn hanner can llath. Bydd miloedd o wahanol ddiodydd, a'r bwyd yn dod o gegin gyda chogyddion o Galimshan a Dethir. Mae'r beirdd gorau yn cystadlu i berfformio yno, mae llyfrgell enfawr ar yr ail lawer, gerddi llawn o winwydden a pharacutiaid ar y to, ac yn y seler gallwch chi ddod o hyd i dair ffynnon: un yn llifo ag elicsir bywyd, un yn llifo â dŵr glân y Bytheuraid, a'r ffynnon olaf yn darparu dim ond y chwisgi llwyd diarth o styll Sal."

"Swnio'n alreit," addefodd Khelgar, er ei fod yn dal i gredu taw bualod wedi'u rhostio oedd syniad da. Gallwch ddefnyddio'r cyrn wedyn i wasanaethu fel cwpanau yfed.

"Alreit?" meddai Lila. "Alreit? Byddai'n ysblennydd! Ond -" wrth wneud tŵr gyda'i bodiau "-falle byddai'r profiad braidd yn unig. Pe byddai pawb yn byw yn eu tafarnau perffaith, fyddai neb gyda'i gilydd. Â phwy ddylwn i siarad ? Â phwy ddylai Grobnar siarad? Fyddai hi ddim yn hwyl am hir. O ganlyniad, mae rhaid i fi gytuno â Grobnar. Ar yr ochr 'ma y Planau, y Fflagen Suddedig yw'r dafarn gorau, y dafarn ddelfrydol. Nawr, foneddigion a boneddigesau, wnewch chi godi'ch eich poteli hen ddŵr metelig mewn tost i fy Ewythr Dyncan, i Sal, ac i'r Fflagen Suddedig. Duwiau a gadwo nhw, a'u hanfon heidiau o fasnachwyr cyfoethog hurt."

"Dŵr? Pfa," meddai Khelgar. Roedd wedi pacio fflasg brandi cyn iddo adael Difarrug ar gyfer achlysur o'r fath. Gwgodd Cwara, ond o gwmpas y siambr roedd ei ffrindiau yn codi eu poteli, biceri ac un gwydr - eiddo Sand, wrth gwrs - mewn tost i iechyd eu cartref yn y dafarn ar y môr wedi'i golchi'n lân gan hallt a gwynt.